Mae nofelau David Walliams fel ffisig. O neiniau dewr yn dwyn
tlysau'r Frenhines i ddeintyddion dieflig, mae ei lyfrau wastad yn
gwneud i ti chwerthin yn uchel. Ond er mor ddigrif a gwallgof ydi'r
digwyddiadau ynddynt, mae rhywbeth yn hynod gyfarwydd, cynnes a
theimladwy ym mhob un o'r llyfrau hyn, a dydi Anti Afiach ddim yn
eithriad. Mae'r eneth fach, Swyn, sy'n byw mewn plasty crand, yn
deffro un bore, ac yn cael newyddion drwg gan ei modryb sinistr,
Anti Alwen. Heb ddatgelu gormod o'r stori, dywed Alwen wrth ei nith
ei bod hi wedi bod yn cysgu am amser maith yn dilyn damwain car, a
bod ei rhieni wedi diflannu! Wrth i Swyn druan fynd at wraidd y
mater a phethau'n bell o daro deuddeg, mae hi'n darganfod sawl
ffaith syfrdanol sy'n siŵr o ddod â gwen i'r wyneb a dagrau i'r
llygaid yr un pryd. Mae hon yn antur o'r dechrau i'r diwedd, ac mae
stamp David Walliams arni drwyddi draw – y chwerthin, y cyffro, y
cymeriadau hoffus a'r rhai sydd ddim mor hoffus, y swynau a'r
bustachu, ond hefyd y rhannau teimladwy ac annwyl. Mae'r stori yn
llawn troeon trwstan annisgwyl, a thrwy'r cyfan rydyn ni'n ysu i'r
cymeriadau ymgyrraedd at y gwir, gan gynnwys Wagner y dylluan
glyfar! Fel yn y llyfrau eraill, mae lluniau penigamp Tony Ross yn
ychwanegu at y cyffro a'r hiwmor. Dwi wedi darllen a mwynhau pob
addasiad Cymraeg o lyfrau'r awdur anhygoel hwn. Nid yw'n annhebyg i
Roald Dahl yn ei dalent dweud stori dda, ac mae'r addasiadau i gyd
yn gwneud cyfiawnder â'i ddawn ac yn siŵr o ddifyrru'r darllenwyr
iau.
*Llinos Griffin @ www.gwales.com*
Ask a Question About this Product More... |