Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu - Argraffiad Newydd [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Mae J. Elwyn Hughes wedi diweddaru ei Canllawiau Iaith a Chymorth Sillfau (a gyhoeddwyd gyntaf yn 1984). Y canlyniad yw llawlyfr hwylus sy’n cynnig rhyw 2,500 o gyfarwyddiadau ar wahanol fathau o anawsterau iaith. Cryfder y gwaith yw ei fod wedi ei seilio ar brofiad J. Elwyn Hughes yn bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda; mae’n gwybod yn iawn pa broblemau iaith sy’n poeni. Nid yw’n pentyrru rheolau, ond yn hytrach yn rhoi cyfarwyddiadau ac enghreifftiau ymarferol. Mae’r rhan fwyaf o’r awgrymiadau’n ymwneud â sillafu. I’r sawl sydd am ysgrifennu Cymraeg ffurfiol iawn, mae yma fôr o wybodaeth am bethau bach sy’n poeni pawb. Dylai problemau dyblu ‘n’ ac ‘r’, ble i osod acenion, pryd mae defnyddio ‘h’ o flaen ‘r’ ac ‘n’ ddiflannu. Mae’r fersiwn newydd dipyn yn fwy hwylus na’r hen. Yn lle trafod mewn tair adran, cyfunwyd y cyfan yn nhrefn yr wyddor, ac mae blychau gwyrdd yn tynnu sylw at drafodaethau ar eiriau penodol. Nid yw’r ateb i bopeth yma. Ffurfiau berfol Cymraeg ffurfiol iawn a geir yn y llyfryn, er y nodir bod ‘tuedd y dyddiau hyn i ysgrifennu’ rhai ffurfiau Cymraeg Cyfoes fel ‘maen nhw’. Gall hyn fod yn dra chymysglyd i ddisgyblion ac i rai sy’n dysgu’r iaith. Mae’n drueni, felly, wrth lunio’r diweddariad hwn, nad oes yma drafodaeth ar y ffurfiau Cymraeg Cyfoes sydd bellach yn cael eu harfer yn llawer helaethach na rhai o ffurfiau berfol diflanedig Cymraeg ffurfiol iawn. Sonnir yma’n gyson am ddefnyddio un ‘n’ o flaen ‘as’, ond pa mor aml y clywn ‘cychwynasom’? ‘Cychwynnon ni’ sy’n gyffredin bellach. I nodi rhai enghreifftiau: cawn wybod gan JEH fod ‘chwerthinais’ yn anghywir, ond hon yw’r ffurf a gynigir yn Gramadeg Cymraeg Cyfoes (Uned Iaith Genedlaethol Cymru, CBAC); ‘darganfyddais’ a nodir yn GCC, ond mae JEH yn gwrthod y ffurf hon. Mae geiriaduron safonol Cymraeg yn amrywio hefyd yn eu sillafu. Ceir ‘rhagweld’ yng Ngeiriadur yr Academi, a derbynnir hyn gan JEH. ‘Rhag-weld’ sydd yn Orgraff yr Iaith Gymraeg ac yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru. Derbynia JEH ‘lori’ a ‘lorri’ er bod OYIG yn nodi ‘lorri’. Mae J. Elwyn Hughes ei hun yn ymwybodol o’r angen am sefydlu ‘Adran Safonau Iaith’ i safoni ffurfiau. Pa radd o sancteiddrwydd y dylid ei rhoi ar orgraff iaith? Yn ddiweddar cafwyd ymdrech i symleiddio a chysoni sillafu Almaeneg, er bod rhai llenorion yn ffyrnig yn erbyn hyn. A ddaeth yn bryd i ni symleiddio orgraff y Gymraeg? Byddai gweld ‘rr’ ac ‘nn’ yn diflanu’n beth anifyr i academyddion, a byddai hyny’n anymunol i rai sy’n honi bod orgraff yn ddigyfnewid, ond byddai canoedd o ddisgyblion wrth eu bodd! Nes i hyny ddigwydd, bydd digon o alw am Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu.
*Heini Gruffudd @ www.gwales.com*

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
This title is unavailable for purchase as none of our regular suppliers have stock available. If you are the publisher, author or distributor for this item, please visit this link.

Back to top