Stori stribed i oedolion ywr gyfrol hon. Dyma gyfrwng hynod o boblogaidd ar y cyfandir ac, or diwedd, wele addasiad Cymraeg or llyfr Ffrangeg Les Druides: Is la Blanche gan Alun Ceri Jones. Na thwyller neb gan luniau i feddwl mai stori syml, ysgafn yw hon. Ir gwrthwyneb, yn wir. Mae'r adroddwr yn mynd 'r darllenydd yn l i fachlud cyfnod y Derwyddon tua phum canrif OC. Gwrthwyneba Rhufain yn chwyrn Gristnogion syn arddel ewyllys rydd. Y mae yma gynllwynio a thywallt gwaed ac maer hen grefydd Geltaidd dan fygythiad. Symudar storin gyflym wrth i ni ddilyn ymchwil Gwynlan ar Brawd Budog yn eu hymgais i geisio darganfod pwy sy tu cefn i'r anfadwaith. Fen tywysir ni, Gymry llengar, yn l i fyd y pedair cainc a Breuddwyd Macsen. Ond nid Blodeuwedd nac Elen sydd yma ond Dahud tywysoges Caer Is, gydar Brawd Gwynnio i fryd ar ei chael yng nghorlan Duw. Mae holl gynhwysion y thriller yma: merched pert a dirgelion, ymladdfeydd a dioddef, gydar storin un oesol wrth ir drwg grymus fygwth goruchafiaeth ar y da. 'r gyfrol yn ail mewn cyfres o dair, bydd y sawl a ddarlleno Cyfaredd Caer Is yn edrych ymlaen yn eiddgar at gyhoeddir drydedd, sef Gwaywr Goruchaf. Diolch i gwmni Dalen am fentro dechrau llenwir gwagle amlwg hwn ar ein silffoedd yn llwyddiannus. Ion Thomas Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Ask a Question About this Product More... |