It's indispensable for parents but many others will enjoy wandering
into this gallery of Welsh heroes, saints, bards and beautiful
princesses.
********************************
A New Updated Guide of Trendy Welsh Names for Children
Y Lolfa has just released an updated version of one of its best
sellers Welsh Names for Children. Last year the publishers called
on members of the public to suggest new names for the book in order
to ensure that it included names that weren’t featured in the
original version. Y Lolfa was keen for the book to reflect the
latest trends when it comes to giving Welsh names to children. The
response was very enthusiastic with dozens of new and original
names being suggested. Amongst the new names for boys are Eban,
Manaw, Cynwyn and Eirwg, and for girls Saran, Nanw, Trofana, Eldeg
and Dolgain. The new revamped volume contains all the popular
traditional names.
Heini Gruffudd, the author, said, “There are approximately two
thousand Welsh names in the book. Dozens of people contacted Y
Lolfa following the publicity in the local newspapers and on the
radio and television, and the result is a brand new collection of
Welsh names which are used today”. He added, “The book includes the
old names from history and folk tales, but there are also several
international names which have been adapted. Here Blodeuwedd and
Cêt, Dylan and Jac sit very happily together.”
The volume will be invaluable to expectant mothers who wish to
choose a Welsh name for their child, as well as being a useful
reference for those who wish to look up the names of Welsh heroes,
Saints, poets and singers through the ages.
*Cyhoeddwr: Y Lolfa*
Mae'n fwy o hwyl nag erioed i'w defnyddio, naill ai i enwi plentyn
neu i fwynhau cwmni arwyr, saint, beirdd a thywysogesau Cymru.
*********************************
Enwau Newydd Gwreiddiol ac Anarferol i Blant Mewn Llyfr Newydd
Mae’r Lolfa newydd ryddhau argraffiad newydd o’r gyfrol Enwau
Cymraeg i Blant. Y llynedd galwodd y wasg ar y cyhoedd i awgrymu
enwau newydd i’w cynnwys yn y llyfr newydd i sicrhau fod y gyfrol
yn cynnwys unrhyw enwau nad oedd yn yr hen argraffiad. Roedd Y
Lolfa hefyd yn awyddus i’r gyfrol adlewyrchu'r tueddiadau
diweddaraf wrth enwi plant yn Gymraeg. Cafwyd ymateb brwdfrydig
iawn gyda dwsinau o enwau gwreiddiol ac anarferol yn cael eu
cynnig. Ymhlith yr enwau newydd i fechgyn mae Eban, Manaw, Cynwyn
ac Eirwg, ac i ferched Saran, Nanw, Trofana, Eldeg a Dolgain. Mae’r
gyfrol sydd wedi ei ddylunio yn ddeniadol mewn dau liw yn cynnwys
yr holl enwau poblogaidd traddodiadol.
Dywedodd Heini Gruffudd, awdur y gyfrol, “Mae tua dwy fil o enwau
Cymraeg yn y llyfr. Cysylltodd ugeiniau o bobl â’r Lolfa yn sgil
ymgyrch gyhoeddusrwydd yn y papurau bro, ar y radio a’r teledu, a’r
canlyniad yw casgliad newydd sbon o enwau Cymraeg sy’n cael eu
defnyddio heddiw. Ychwanegodd, “Mae hen enwau ein hanes a’n
chwedlau yma, ond yma hefyd nifer o enwau poblogaidd rhyngwladol
wedi’u Cymreigio. Yma mae Blodeuwedd a Cêt, Dylan a Jac yn hapus
yng nghwmni’i gilydd.”
Bydd y gyfrol yma yn anhepgorol i ddarpar famau sydd am ddewis enw
Cymraeg i’w plentyn yn ogystal â bod yn gyfeirlyfr i bobl sydd am
fynd am dro difyr yng nghwmni arwyr, saint, beirdd a chantorion
Cymru trwy’r oesoedd.
*Cyhoeddwr: Y Lolfa*
Ask a Question About this Product More... |