Mae'n siwr fod y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd Phedair Cainc y Mabinogi rhai ohonom, o bosib, wedi gorfod eu hastudio'n fanwl mewn Cymraeg Canol, ac eraill ohonom wedi cael bras syniad o'r straeon ar l eu darllen mewn llyfrau plant. Wel, dyma lyfr sy'n cynnwys rhywbeth yn y canol addasiad swmpus o'r pedair stori. Mae'r llyfr yn addas i blant hyn ac oedolion. Mae ynddo dros 120 o dudalennau ac y mae hynny'n rhoi syniad i chi o'r manylder a geir yma. Mae'r llyfr clawr caled wedi cael ei gyflwyno mewn diwyg gln, hawdd ei ddarllen ond yr hyn sy'n gwneud y llyfr hwn yn gwbl atyniadol yw'r lluniau gan yr artist Valriane Leblond. Ar ddechrau'r gyfrol ceir llun o bawb ym mhob cainc gydag eglurhad pwy yw pwy. Ceir hefyd fapiau o Gymru'n dangos lle yn union mae'r mannau gwahanol a enwir yn y ceinciau. Dyma lyfr, heb os, sy'n haeddu bod yn hosan pob plentyn y Nadolig hwn. Bydd ei ddarllen yn rhoi cyflwyniad penigamp i rai o brif gymeriadau ein lln i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Mae'r awdur wedi dal naws y ceinciau i'r dim eu tristwch a'u hiwmor, ac mae'r dweud mewn mannau yn hyfryd o gynnil a diwastraff. Mi ellid ei ddarllen dro ar l tro a chael pleser pur yn byseddu'r tudalennau cain. Sarah Down-Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Ask a Question About this Product More... |