Pan fydd rhywun yn cofio gwirioni ar record gyntaf y grŵp Ac
Eraill, cofio bod yn y gynulleida yn y sioe Nia Ben Aur yng
Nghaerfyrddin, treulio cyfnod yng ngwersyll Llangrannog yn
nechrau’r saithdegau, ac, wrth gwrs, rhyfeddu at Edward H Dafis,
mae’n naturiol bod y gyfrol yma’n apelio’n fawr. Ond mae’n llawer
iawn mwy na chofnod syml o’r dyddiau ar lwyfannau ac mewn
gwersylloedd – mae hwn yn hunangofiant agored a phersonol iawn,
iawn gan Cleif Harpwood. Nid yn aml mae awduron hunangofiannau mor
barod i ddatgelu cymaint am eu personoliaeth. Rhwng cloriau’r
gyfrol hon cawn ddod i adnabod y dyn go iawn, ei deulu a’i
ffrindiau a chawn brofi’r cyfnodau gwych a mwy gwachul yn ei oes.
Bydd yn agoriad llygad i lawer un ddarllen hanes ei ddyddiau cynnar
yn ardal ’Berafan, fel mae’n ei galw, ac yn arbennig y bwrlwm
Cymreig oedd yn deillio o Ysgol Pont-rhyd-y-fen a’r Aelwyd yn yr
ardal honno. Wrth wibio ar hyd y draffordd heibio Port Talbot a
Baglan o hyn ymlaen byddaf yn gweld yr ardal trwy lygaid gwahanol
iawn, ac yn cofio atgasedd Cleif at y ffordd honno oherwydd y
chwalfa a achosodd i gymunedau Cymraeg yr ardal. Cawn ddod i
adnabod sawl ardal arall yn y gyfrol hefyd, gan gynnwys Ffostrasol
a’r Dderwen-gam a bywyd dinesig Caerdydd a’r cyffiniau, cyn
dychwelyd i Gwm Afan. Cawn ddod i adnabod sawl math o swydd yma
hefyd. Er mai fel canwr amlwg yr ydym yn meddwl am Cleif, go brin y
byddai wedi gallu byw ar y canu yn unig, ac mae’n ein tywys trwy’r
llu o wahanol swyddi fu ganddo ar hyd ei yrfa yn drylwyr iawn, o
rannu papurau newydd siop ei dad hyd at ei gyfnod fel un o
gynhyrchwyr teledu prysuraf Cymru. Nid yw Cleif yn gyndyn o fynegi
ei farn chwaith; mae’n amlwg bod yr ymateb i’r grŵp Injaroc wedi ei
frifo’n fawr, yn ogystal â’r ffordd y mae rhai comisiynwyr teledu
wedi gweithredu ar hyd y blynyddoedd. Felly, os hoffech chi ddod i
adnabod Cleif Harpwood – y dyn go iawn, a hynny yn ei acen ei hun,
dyma’r gyfrol i chi. Ond mae hefyd yn gyfle i ail-fyw y cyfnod pan
wnaeth y byd adloniant Cymraeg gamu o gyfnod y nosweithiau llawen
gwerinol eu nawr i fyd y gigs a neuaddau gorlawn yn cyd-rocio.
Diolch, Cleif.
*Beryl Griffiths @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |