Os nad wyt ti erioed wedi darllen am yr amddifaid Baudelaire o’r
blaen, mae rhywbeth pwysig iawn y dylet ti ei wybod cyn darllen yr
un frawddeg arall: rhai caredig a chlyfar yw Violet, Klaus a Sunny,
ond
mae eu bywydau, mae’n flin gen i ddweud wrthot ti, yn llawn anlwc a
diflastod. Anhapusrwydd a thorcalon sydd ym mhob un o’r storïau
amdanynt, a synnwn i fawr nad hon sydd yn dy law yw’r gwaethaf
ohonyn nhw i gyd.
Os na alli di stumogi stori am gorwynt, dyfais
gyfeirio anghyffredin, gelenod llwglyd, cawl
ciwbymbr oer a dihiryn anghyffredin o aflan, fe
fydd y llyfr hwn yn siwr o godi’r arswyd mwyaf
arnat ti.
Fe fydda i’n parhau i gofnodi’r hanesion
trychinebus hyn, achos dyna rwy’n ei wneud. Ond
rhaid i ti, ar y llaw, benderfynu trosot dy hun a alli
di byth ofedd y stori ddiflas hon.
*Cyhoeddwr: Dref Wen*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |