Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


MR Ffiaidd [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Druan Mr Ffiaidd, y trempyn lleol. Mae e mor ddrewllyd nes ei fod en gwagio caffi o'i gwsmeriaid a'i staff o fewn ychydig eiliadau, ac mae'n rhaid i Alys anadlu drwy ei cheg pan mae yn ei gwmni. Ond mae Alys yn unig, yn cael ei bwlio yn yr ysgol ac yn cael ei hanwybyddu gan ei mam uchelgeisiol, ac o ganlyniad mae caredigrwydd a chyngor Mr Ffiaidd yn ei denu ato. Pwy yw e? A oes modd ei helpu? Ac a oes modd ei berswadio i gymryd bath?! Hiwmor a dychan yw prif nodweddion y nofel, wrth i David Walliams fwynhaur elfen absrd yn y stori. Ac mae yn ei mwynhau! Maen ymhyfrydu ym mhob arogl cas, pob ffolineb gan fam snobyddlyd Alys, ac yn ymddygiad anghyffredin Mr Ffiaidd. Ac maer sgrifennu yn cynnwys elfennau fydd yn apelio at rieni yn ogystal phlant. Ond mae na neges fwy moesol yma hefyd. Mae caredigrwydd a chonsrn Alys yn esgor ar gyfeillgarwch rhyngddi hi a Mr Ffiaidd, a hynny yn ei dro yn helpu Alys i fagu hyder ynddi hi ei hun. Wrth i ddigwyddiadau droin fwy fwy swreal maer trempyn drewllyd yn llwyddo i ddatgelu gwirioneddau a dysgu gwersi i bobl. A hynny heb gollir chwerthin a'r anwyldeb sydd yn nodweddu'r nofel. I rywun o nghenhedlaeth i maen anodd peidio cymharu Mr Ffiaidd nofelau Roald Dahl, yn enwedig gan mai Quentin Blake syn gyfrifol am y darluniau. Efallai nad ywr un dyfnder yma bob tro ag sydd yn rhai o straeon Dahl ond mae Mr Ffiaidd yn hwyl, yn llawn syndod a chwerthin, ac yn stori dda y gall plant ddychwelyd ati dro ar l tro. Cerian Arianrhod Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
This title is unavailable for purchase as none of our regular suppliers have stock available. If you are the publisher, author or distributor for this item, please visit this link.

Back to top