Mae Moc yn ystyried ei hun fel tipyn o foi, felly pan mae ei gariad
Rhian yn ei adael mae'n rhaid iddo dynnu sylw at ei hun. Ond mae
hithe'n gweld drwy'r cwbwl, ac mewn gwewyr emosiynol mae ynte'n
trio rhoi trefn newydd ar ei fywyd trwy ymuno â chylch o ddynion
sy'n ceisio dadansoddi eu hunain (a'u botymau bol). Yno mae'n dod
ar draws Cris (neu Cristîn i'w ffrindiau) sy wedi derbyn gwahoddiad
i drafod sut beth yw bod yn ddyn hoyw. A dyna lle mae penbleth Moc
yn dechrau...
Llyfr cartwn ar gyfer darllenwyr aeddfed 16 mlwydd+ Cloriau lliw;
tudalennau mono Clawr meddal
*Cyhoeddwr: Dalen (Llyfrau) Cyf*
Ask a Question About this Product More... |