Os sharpna i fe to bydd dim pig da fi ar l. Ma fe fel lethal weapon. On i jyst lladd fy hunan ddo, pan grafes i mhen l. Yn l y sn, cafodd Dewi Pws ei eni yn Nhreboeth, er mwyn bod yn agos at ei fam. Ymhlith tudalennau Popeth Pws, maer hiwmor crafog, tafod yn y foch fel chwa o chwerthiniad, a cheir jc ar l jc o fewn ei gerddi ai ganeuon. Yn wir, or dudalen gyntaf un, mae'r cyfan fel petai'n tynnu eich coes yn ddi-baid. Dyna yw dawn dweud Dewi Pws. Ond mae mwy na hynny ir cerddor ar digrifwr hwn. Yr hyn sy'n unigryw am Dewi Pws yw'r ffordd syml sydd ganddo o ddweud jc ac eto, mae tynerwch rhai oi ganeuon o ddyddiau grwpiau Edward H Dafis a'r Tebot Piws yn cyffwrdd ch calon, yn gwneud i chi deimlo ir byw ac mae Cymru wastad ar ei feddwl. Dyna yw gwir ddawn y gymysgfa honno o wirionedd trist am sefyllfa ein cenedl ai ffraethineb fel unigolyn. Maer casgliad hwn yn un sydd wir yn dod holl ddoniau Pws at ei gilydd. Gall unrhyw un werthfawrogir casgliad y rheini a ddawnsiai'n wyllt mewn neuaddau cyngerdd ledled Cymru yn y saithdegau, y rhai sy'n mwynhau ei wylio'n actio ar y sgrin deledu, a'r plant lleiaf sy'n cael blas as swn ei gerddi bachog bendigedig. Does neb yn cael ei anwybyddu gan Pws, ac mae ei onestrwydd yn gwneud i ni feddwl nad yw byth yn cyfeirio at neb yn benodol o ran cynulleidfa, dim ond dweud ei ddweud yn ei ffordd ddihafal ei hun. Ei glyfrwch, ei gariad at Gymru, ei gerddoriaeth, y gwirionedd a'r sioncrwydd yn ei eiriau ... does neb yn debyg iddo. Llinos Griffin Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Ask a Question About this Product More... |