‘Drwy gyfrwng ei rhyddiaith gain, mae Eigra’n ein gwahodd i
glustfeinio ar gelwydd a rhagrith ei chymeriadau ac i rannu eu
cyfrinachau dyrys.’ Manon Rhys
Mae pob dim i’w weld yn ddigon normal yn y Bryn, pentref cyffredin
yng ngogledd Cymru, lle mae pawb yn byw eu bywydau heb fawr ddim
trybini a phawb yn tynnu ’mlaen, fwy neu lai. Yna, daw Owen Myfyr
Owen yn ôl i’w plith, wedi cyfnod hir yn gweithio fel newyddiadurwr
yn y Sowth, ac mae am setlo hen sgôr a bygwth datgelu cyfrinachau
pawb a rhyddhau sgerbydau o’u cypyrddau.
Yn gwylio’r cyfan y mae Jo – hogyn di-nod sy’n fawr o beth i edrych
arno, a heb fod yn llawn llathen yng ngolwg pobl y pentref. Ond mae
Jo, fel pry ar y wal, yn gweld pob dim sy’n digwydd yn y Bryn ac
mae’n deall llawer mwy nag y mae unrhyw un yn ei sylweddoli.
Dyma stori afaelgar gan feistres y nofel, sy’n ymhél ag elfennau
seicolegol drwy dwrio o dan groen bywyd bob dydd.
*Cyhoeddwr: Gomer@Lolfa*
Rhaid cyfaddef nad oeddwn i'n siŵr a oeddwn i'n mynd i fwynhau Pry
ar y Wal wrth ddarllen y tudalennau cyntaf. Yr unig reswm am hyn
oedd fod y broliant wedi fy arwain i feddwl mai nofel am gymeriad
o'r enw Owen Myfyr Owen oedd hi, neu o bosibl nofel am gymeriad o'r
enw Jo. Roeddwn i'n disgwyl uniaethu ag un ohonynt, neu efallai’r
ddau, a dilyn eu hanes trwy'r llyfr. Roeddwn yn barod i un ohonynt
fod yn brif gymeriad. Ond wrth i bob cymeriad – ac mae yna gryn
dipyn ohonynt – gael ei gyflwyno roeddwn yn cael fy hudo ganddo ac
yn uniaethu â hwnnw ac yn poeni amdano ac eisiau i bopeth fod yn
iawn iddo fo neu hi. Yna mi wnes i sylweddoli nad stori am gymeriad
neu ddau ydi Pry ar y Wal ond yn hytrach stori cymuned. Y gymuned
honno yw'r Bryn, pentref bychan digon di-nod. Mae'n bentref digon
mawr i fod â siop a thafarn a neuadd bentref, ac yn ddigon mawr i
haeddu colofn fach yn y papur newydd lleol, y Valley News. Colofn
yw hon sy'n cael ei sgwennu gan Owen Myfyr Owen, neu OMO, fel mae
llawer yn ei alw, newyddiadurwr sydd wedi dychwelyd i'r Bryn ar ôl
cyfnod oddi yno; ac ofn llawer iawn o'r cymeriadau yw i'r gwir
amdanynt, pethau sydd wedi bod ynghudd ers blynyddoedd, ymddangos
yn ei golofn a thrwy hynny ddod yn wybyddus i bawb. Ac wrth gwrs,
fel ym mhob pentref bychan, mae bywydau’r cymeriadau i gyd ynghlwm
â'i gilydd yn un we. Un o'r clymau sy'n cael y sylw mwyaf yw'r
berthynas, neu'r diffyg perthynas, rhwng plant a'u rhieni. Go brin
bod unrhyw un ohonynt yn berthynas normal ac iach, ond y mae pob un
ohonynt yn hollol gredadwy. Mae hi'n gamp ysgrifennu fel bod
ymddygiad afresymol yn ymddangos yn rhesymol, fel bod y darllenydd
yn teimlo ‘wel ia, wrth gwrs, dyna fysa hi'n neud’, er bod y
weithred yn un od, ond mae Eigra yn llwyddo i wneud hynny. Mae hi'n
gadael i ni weld yr hyn sydd yn fregus ac yn annwyl mewn unigolion
sydd yn byw bywydau sy ymhell o fod yn berffaith. Dw i'n hoff iawn
o'r clawr, ond datgelu gormod fyddai i mi sôn llawer am arwyddocâd
y pry marw, sydd hefyd yn ymddangos rhwng ambell baragraff. Digon
yw dweud nad yw bod yn agos at we yn lle saff iawn i bry. Camp
Eigra oedd gwneud i mi boeni mwy am y we nag am y pry.
*Sian Northey @ www.gwales.com*
Ask a Question About this Product More... |