Wn i ddim a ddylwn i eich annog i ddarllen y casgliad hwn o straeon
byrion ai peidio – fe fydd yn gofyn dewrder, does dim amheuaeth am
hynny!
Dywedir wrthym ar y clawr fod yr awdur sy’n dod o Fôn, (‘Ynys
Dywyll’ y Derwyddon), wedi magu diddordeb mewn llenyddiaeth
ganoloesol wrth astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt. Llwyddodd i
droi'r diddordeb hwnnw’n greadigaethau llenyddol cwbl gyffrous a
thra gwahanol i ddim a ddarllenais ers tro byd.
Yn y stori gyntaf un fe ddeuir ar draws hen lawysgrif yn
nyfnderoedd archifau’r Brifysgol. Hwn yw’r 'Llyfr Glas' ac er y
rhybudd pendant i beidio’i ddarllen, dyna a wneir, wrth gwrs! Beth
a gawn ynddo yw nid yn unig gronicl cynnar o’n hen chwedlau ond
hefyd fersiwn o Bumed Gainc y Mabinogi, rhywbeth nad oedd neb wedi
dod ar ei draws o’r blaen.
Mae’r darganfyddiad yn arwain at gyfres o storïau cydgysylltiol ond
cwbl annibynnol ar ei gilydd sy’n ymwneud â’n chwedloniaeth gynnar.
Storïau ydynt sydd wedi eu gwreiddio yn ddwfn yn ein chwedlau
cynharaf, ond yn perthyn ar yr un pryd i’n bywydau ni heddiw.
Cyflwynir ni i fyd o ‘leisiau a drychiolaethau’, peryglon a
bygythiadau. Yn ‘Y Gwyliwr ar y Tŵr’, stori sy’n adleisio chwedl
Cantre’r Gwaelod, fe ddaw’r bygythiad o gyfeiriad y môr. Mae
‘Cysgod y Crafanc’ wedyn wedi ei lleoli ar fferm gyfoes lle megir
merlod ac fel stori drawiadol arall, ‘Rigantona’, mae’n ein
hatgoffa yn gryf o chwedl Pwyll Pendefig Dyfed. Mae ‘Arswyd y Maen’
yn mynd â ni i gynteddau tywyll o dan feini’r Orsedd. Cawn fod yna
bresenoldeb sinistr ym mhob man bron, boed hynny mewn coedwig, ogof
neu ddyfroedd dyfnion rhyw lyn pellennig. Hyd yn oed mewn tafarn ym
Mangor Ucha ni ellwch ymddiried mewn cyfaill sydd wedi dod i rannu
peint tawel gyda chi. A gochelwch rhag mynd i neuadd gymunedol sy’n
ddiniwed yr olwg. Mae yna gyntefigrwydd maleisus o’ch cwmpas ym
mhobman ...
Mae’r straeon yn llawn digwyddiadau a marwolaethau anesboniadwy ac
ambell ddiflaniad na ellir ei egluro, heb sôn am lofruddiaethau
gwaedlyd. Cawn y cyfan yn cyrraedd penllanw llawn arswyd yn y stori
olaf gyda’r ymweliad ag Annwfn.
Nid cyfrol i’r darllenydd ofnus yw hon, felly. Ond fe allaf dystio
y bydd y sawl sy’n ddigon dewr i fynd i’r afael â hi yn cael blas
garw ar bori rhwng y tudalennau, gan ddymuno gwneud hynny dro ar ôl
tro.
*Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |