Gan barhau â chyfres ddyddiadur Llio ar gyfer merched yn eu
harddegau, mae'r ail deitl Beth yw'r Haf i Mi? yn ddilyniant i Y
Dyddiadur Bach, wrth i Llio wynebu gwyliau hir yr haf heb gwmni
Trystan, y crwtyn ciwt drws nesa yr oedd hi'n ei ffansïo. Aiff Llio
a'i mam i dreulio gwyliau'r haf gyda Mamgu yn y wlad. Gweddw digon
anodd i gyd-dynnu â hi yw’r hen wreigan, ond er gwaetha popeth, hi
yw Mamgu, ac mae’n rhaid ei charu (a'i dioddef) oherwydd hynny.
Tra'u bod yn aros gyda Mamgu, daw mam Llio o hyd i nifer o hen
atgofion o'i ieuenctid ei hun sy'n profi nad yw'r gagendor rhwng y
ddwy genhedlaeth mor anferth â hynny wedi'r cwbwl. Yr un math o
bethau sydd ar feddwl y ddwy, a'r mwya o'r rheiny yw cariad – neu'n
fwy penodol sut i wneud yn siŵr fod gan y ddwy ohonyn nhw serch yn
eu bywydau. Daw mam Llio ar draws sawl hen fflam yn ei bro
enedigol, ond mae'n profi'n anodd iawn cynnau tân serch ar hen
aelwyd Mamgu, yn enwedig pan fo'r cof am Rhisiart golygus, sy'n byw
drws nesa nôl yn y dre, yn fyw yn ei meddwl. A beth am Llio? Gyda
Trystan wedi diflannu heb ddweud ffarwel, tybed ddaw hi o hyd i
fachgen perffaith arall?
Ac fe ddaw'r prawf terfynol pan ddychwela Llio a'i mam adre o'u
gwyliau. A fydd Rhisiart a Trystan yno? Does dim byd yn sicr nes y
daw'r ddwy oddi ar y trên!
*Cyhoeddwr: Dalen (Llyfrau) Cyf*
Ask a Question About this Product More... |