Cyhoeddwyd y llyfr hwn gyntaf yn y Gymraeg ym 1999, ac mae fy
mhlant i wedi cael llawer o bleser o wrando ac ailwrando ar y stori
syml hon ers hynny. Ailargraffwyd y llyfr, gyda llun newydd ar y
clawr, yn 2003.
Stori yw hon am gir fferm yn chwyrnu mor uchel nes ei fod yn
deffro anifeiliaid y buarth i gyd. Maen stori ddarllenadwy iawn,
gyda digon o gyfle ir plantos ymuno ag anifeiliaid y fferm i
geisio deffror ci swnllyd. Ceir yma luniau annwyl syn cyfleu
cymdeithas glòs y buarth bach cyfeillgar, ac maer diweddglon syml
ac addas.
Stori hyfryd iw rhannu gyda phlant bach, ac ir brodyr a chwiorydd
hŷn ei ddarllen ai rhannu gydar rhai lleiaf hefyd.
*Lynwen Robets @ www.gwales.com*
Ask a Question About this Product More... |