Charlie Bucket ie, neb llai nar hogyn ifanc yma ar ei anturiaethau anhygoel unwaith eto! Bellach, ac yntaun berchen ar y ffatri siocled, cawn ei ddilyn ef a Mr Wonka i ben drawr byd a hynnyn llythrennol! Gellir dadlau bod Charlie yn profi mwy o ddigwyddiadau cyffrous mewn un diwrnod nar mwyafrif ohonom mewn oes. Bron na ellir dweud mai diwrnod cyffredin i Charlie yw mynd mewn esgynnydd mawr gwydr i orbit, ymweld gwesty gofod, dianc o grafangau cnedwyr mileinig, achub capsiwl teithio yr UDA, helyntion y WonkaFeit ar Feita-Wonk a gwahoddiad ir Ty Gwyn. Bobol bach, dyma beth yw cadw darllenydd ar flaen ei sedd! Nid un digwyddiad sydd yn straeon Roald Dahl ond sawl llinyn stori mewn un syn osgoi diflastod o unrhyw fath. Dyma awdur syn tanior dychymyg ac yn ein cludo i wlad lle mae unrhyw beth a phopeth yn bosibl! Hyn i gyd, cofiwch, gan awdur a dderbyniodd adroddiadau pur wael or ysgol: Yn gyson ddiog. Prin ywr syniadau ... aelod diog ac anllythrennog or dosbarth. Rhaid hefyd canmol cyfieithiad Elin Meek gan fod y nofel yn byrlymu o eiriau gwneud y goblfwnc! Ciraswcli malibwcw, Ni syn gall a chisyn ddwlw! Ceir hefyd benillion o farddoniaeth difyr dros ben megis Cn y Nyrs, Miss Tibbs ir Arlywydd a band yr Wmpalwmpas nodedig yn symud a siglo wrth ganu ir Wonka-Feit gwyrthiol! Y WonkaFeit arbennig syn tynnu blynyddoedd oddi ar eich hoed ac yn eich gwneud yn fythol ifanc. Cofiwch droi at y rysit a gofalwch ei dilyn yn ofalus rhag i chi lanio yng ngwlad minws fel perthynas i Charlie. Er i mi gael rhyw fymryn o drafferth i ymdoddi i fyd Charlie yn y bennod agoriadol, dyma lyfr syn mynnu ei le, ac wedi i chi fod yn ddigon anturus i ddymchwel ffiniau realiti, mae popeth yn dod yn fyw. Dyma nofel fyrlymus, llawn dychymyg a hiwmor tafod yn y boch syn sicr o ddenu ystod eang o gynulleidfa o bob oed i fwynhau ac ymgolli ym myd arbennig y cymeriadau. Andrea Parry Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Ask a Question About this Product More... |