Cyhoeddwyd Anghenion y Gynghanedd ym 1973, a bu'n werslyfr hynod o
boblogaidd ac effeithiol. Fe'i pleidleisiwyd fel y llawlyfr dysgu
cynganeddion gorau erioed ar y wefan 'Annedd y Cynganeddwyr', a
thrwy'r llyfr hwn y dysgodd nifer helaeth o bobl sut i gynganeddu,
gan gynnwys o leiaf ddau brifardd. Mae'r fersiwn newydd hwn yn
fersiwn llawnach a mwy cyfoes o'r llyfr gwreiddiol. Yn wir, mae
galw'r llyfr yn Anghenion y Gynghanedd yn gamarweiniol, gan mai
llyfr newydd sbon a hollol wahanol i'r gwreiddiol yw hwn.
Ailwampiwyd ac ailysgrifennwyd y cyfan. Mae'n llawer mwy
cynhwysfawr nag Anghenion y Gynghanedd 1973, a defnyddir llinellau
o waith y prif feirdd cynganeddol, yn enwedig y Cywyddwyr, i
esbonio pob cynghanedd ac i egluro pob rheol, bai a goddefiad. Dysg
lafar oedd Cerdd Dafod yng nghyfnod y Cywyddwyr, ac er bod peth o'r
ddysg honno wedi goroesi mewn llawysgrifau fel Pum Llyfr
Cerddwriaeth Simwnt Fychan (tua 1570), mae awdur y gyfrol hon yn
dadlau fod holl gyfrinachau'r traddodiad barddol wedi goroesi yng
ngwaith y Cywyddwyr eu hunain. Dadlennu'r ddysg honno a wneir yn y
llyfr hwn.
Ceir damcaniaethau a dadleuon newydd sbon yma hefyd, ac fe seiliwyd
pob dadl a damcaniaeth ar dystiolaeth ddiymwad, gadarn, ac yn
ogystal ag esbonio rheolau'r gynghanedd, mae'r gyfrol hefyd yn
trafod rhai o brif dechnegau'r prif feirdd cynganeddol. Gan fod
cymaint o ddryswch ac anghytundeb yn bod ynghylch rhai o reolau'r
gynghanedd erbyn hyn, mae cyhoeddi'r llyfr hwn yn ddigwyddiad
amserol.
*Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas*
Ask a Question About this Product More... |