Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Anghenion y Gynghanedd [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Cyhoeddwyd Anghenion y Gynghanedd ym 1973, a bu'n werslyfr hynod o boblogaidd ac effeithiol. Fe'i pleidleisiwyd fel y llawlyfr dysgu cynganeddion gorau erioed ar y wefan 'Annedd y Cynganeddwyr', a thrwy'r llyfr hwn y dysgodd nifer helaeth o bobl sut i gynganeddu, gan gynnwys o leiaf ddau brifardd. Mae'r fersiwn newydd hwn yn fersiwn llawnach a mwy cyfoes o'r llyfr gwreiddiol. Yn wir, mae galw'r llyfr yn Anghenion y Gynghanedd yn gamarweiniol, gan mai llyfr newydd sbon a hollol wahanol i'r gwreiddiol yw hwn.
Ailwampiwyd ac ailysgrifennwyd y cyfan. Mae'n llawer mwy cynhwysfawr nag Anghenion y Gynghanedd 1973, a defnyddir llinellau o waith y prif feirdd cynganeddol, yn enwedig y Cywyddwyr, i esbonio pob cynghanedd ac i egluro pob rheol, bai a goddefiad. Dysg lafar oedd Cerdd Dafod yng nghyfnod y Cywyddwyr, ac er bod peth o'r ddysg honno wedi goroesi mewn llawysgrifau fel Pum Llyfr Cerddwriaeth Simwnt Fychan (tua 1570), mae awdur y gyfrol hon yn dadlau fod holl gyfrinachau'r traddodiad barddol wedi goroesi yng ngwaith y Cywyddwyr eu hunain. Dadlennu'r ddysg honno a wneir yn y llyfr hwn.
Ceir damcaniaethau a dadleuon newydd sbon yma hefyd, ac fe seiliwyd pob dadl a damcaniaeth ar dystiolaeth ddiymwad, gadarn, ac yn ogystal ag esbonio rheolau'r gynghanedd, mae'r gyfrol hefyd yn trafod rhai o brif dechnegau'r prif feirdd cynganeddol. Gan fod cymaint o ddryswch ac anghytundeb yn bod ynghylch rhai o reolau'r gynghanedd erbyn hyn, mae cyhoeddi'r llyfr hwn yn ddigwyddiad amserol.
*Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas*

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
This title is unavailable for purchase as none of our regular suppliers have stock available. If you are the publisher, author or distributor for this item, please visit this link.

Back to top