Mae’n amlwg bod gan Roger Boore ddealltwriaeth eang a chynhwysfawr
o hanes Rhufain, yn enwedig yn y cyfnodau cynnar. Wrth iddo grwydro
strydoedd Rhufain mae’n adrodd hanes ymerawdwyr a phabyddion, a
chymaint o adeiladau, gwaith celf a cherfluniau’r ddinas. Mae’r
darn am hanes uno’r wlad yn arbennig o ddiddorol, yn enwedig rôl
teyrnas Sardinia yn y 19eg ganrif a sut y tynnwyd Fenis a
Thaleithiau’r Pab i mewn i’r wlad newydd. Mae’r stori am ddwy long
ryfel Brydeinig yn gwylio harbwr Marsala yn ddifyr – yno yn unswydd
i ofalu am eiddo cwmni o Brydain oedd yn allforio’r gwin melys i
Lundain.
Mae’r awdur yn amlwg yn dwlu ar hanes cynnar Rhufain, gan roi i ni
fanylion arweinwyr yr ymerodraeth megis Nero, Vespasianus a
Vitellius, a thynged erchyll cymaint ohonynt – fel Galba a gollodd
ei ben ar ôl rheoli am 207 o ddyddiau yn unig. Roedd ei elyn Otho
yn gyfrwys!
Gan neidio'n sydyn o'r bedwaredd ganrif, y mae Boore yn ein tynnu’n
ôl i’r presennol ac fe gawn rannu hufen iâ gydag e a’i wraig a
chael stori fach fywiog – fel hanes y cwpwl cefnog o Awstralia y bu
iddyn nhw eu cyfarfod ger y Grisiau Sbaenaidd. Mae stori ymweliad
yr awdur a’i wraig yn hanesion bachog ac mi fydden i wedi hoffi
darllen mwy ohonynt, ac efallai cael mwy o ddarlun o’r ddinas trwy
eu llygaid hwy.
Y mae manylder yr hanes cynnar yn y llyfr ychydig yn rhy fanwl ar
adegau, ond wedyn mae’r darllenydd yn cael clywed o ble daw’r
ymadrodd “canu’r crwth tra bod Rhufain yn llosgi”, ac mae storïau’r
baddondai a beth fyddai yn digwydd mewn cyfleusterau cyhoeddus yn
lliwgar iawn.
Un o’r darnau eraill oedd yn fyw iawn oedd hanes y traciau rasio a
sioeau’r bwystfilod a gludwyd i Rufain er mwyn eu harddangos ac yna
eu hela a’u lladd yn gyhoeddus. A’r gladiatoriaid hynny rydym yn eu
cysylltu â’r Rhufain hynafol – mae eu hanes yn gaethion yn cael eu
prynu am eu nerth corfforol yn tanlinellu creulondeb eithriadol y
cyfnod.
Mae yma lawer iawn o hanes a chronoleg gynhwysfawr o gyfnod cynnar
sy’n ddiarth i gynifer ohonom ac mae’r awdur yn amlwg wrth ei fodd
gyda’r oes, a hefyd wrth ei fodd yn rhannu’r wybodaeth gyda ni. Yn
bersonol mi hoffwn weld hanes mwy diweddar y wlad yn cael yr un
driniaeth fanwl ond mae’n bosib iawn bod hynny ar y gweill mewn
cyfrol arall – cawn weld.
*Catrin MS Davies @ www.gwales.com*
Ask a Question About this Product More... |