Warehouse Stock Clearance Sale

Grab a bargain today!


Taith i Awstralia [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Wyddech chi nad ydy Awstraliaid yn cyfarch pawb gyda Gday, yn fwy nag y mae pob Cymro neu Gymraes yn ebychu Indeed to goodness, boyo bob yn ail frawddeg? Yr hyn a gewch chi gan amlaf yw How are you? ond, a dyma lle maer gwahaniaeth diwylliannol iw weld yn glir, maen nhw am gael gwybod o ddifrif sut ydych chi, a hyd yn oed os ydych yn gwbl ddieithr ir Awstraliad dan sylw, mae disgwyl i chi ddweud sut ydych yn teimlo -- a pham! A phan ddawr sgwrs i ben, See you soon fydd y ffarwl yn amlach na pheidio -- hyd yn oed os na fydd disgwyl i chi gwrdd byth eto ar y ddaear hon. Dyna ddarlunio i'r dim y ffordd y mae Roger Boore wedi rhoi darlun mor fyw o Awstralia ai phobl i ni. Nid llawlyfr i dwristiaid cerdyn post a geir yma. Mae rhai or eiconau twristaidd yma, ydyn, megis Ty Opera Sydney a cholofnau creigiog y Deuddeg Apostol ar arfordir Victoria, ond megis cefndir ywr rhain ar gyfer llwyfannu cysylltiadaur awdur ai wraig r bobl -- yn Ewropeaid, yn Gynfrodorion ac yn Awstraliaid newydd, fel yu gelwir, o Asia. Rheswm yr awdur dros ymddiddori yn y wlad yw bod ei daid wedi bod yn byw yno, fel capten llong, yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac maer ymchwil am olion oi gyfnod ynon llinell gyswllt drwyr llyfr, ac yn fodd o roi cipolwg -- mwy na chipolwg, yn wir -- ar hanes y wlad gymhleth hon, gan gynnwys cyfraniadaur Cymry i'r stori. Mae hynnyn cynnwys, wrth gwrs, hanes y gwrthdaro rhwng diwylliant yr Ewropeaid -- Prydeinwyr, gan fwyaf -- ar Cynfrodorion. Rwyn falch bod yr awdur wedi llwyddo i wneud hynny heb, ar yr un llaw, feior Cynfrodorion eu hunain am eu holl broblemau (agwedd rhy gyffredin yn Awstralia hyd yn oed heddiw, gwaethar modd) nac ychwaith bregethur cywirdeb gwleidyddol nawddoglyd syn darlunio pob Cynfrodor yn annynol ddi-fai. Nid bwriad yr awdur yw cynnig dadansoddiad dwfn o wreiddiaur hyn a roes i Awstralia ei diwylliannau unigryw. Fodd bynnag, fel un a dreuliodd dair blynedd ymhlith trigolion amlhiliol amlddiwylliannol Melbourne, gallaf dystio y cewch yma flas ar y wlad ar bobl fel y maen nhw bob dydd, er gwell ac er gwaeth. Ac mi roedd yn dda clywed hefyd bod y Gymraes o Lanellin parhau i gynorthwyo teithwyr blin wrth y ddesg dwristiaid ym maes awyr Tullamarine! Sin Aled Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
This title is unavailable for purchase as none of our regular suppliers have stock available. If you are the publisher, author or distributor for this item, please visit this link.

Back to top